P-05-1057 Cynyddu nifer y bobl sy’n cael mynd i dderbyniadau priodas
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Simon Clark, ar ôl casglu cyfanswm o 984 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae gennym briodas wedi'i chynllunio ar gyfer diwedd mis Hydref, ond ar hyn o bryd ni allwn gael derbyniad i ddilyn gyda'n gwesteion i gyd. Gallem gael pryd o fwyd mewn bwyty ond nid ‘derbyniad’.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar hyn o bryd mae Gogledd Iwerddon yn caniatáu i leoliadau gyfyngu ar y niferoedd ar sail maint y lleoliad a chadw pellter cymdeithasol diogel. Hoffem weld hyn yn cael ei gyflwyno yng Nghymru. Byddai hyn yn sicrhau cydraddoldeb rhwng y diwydiant bwytai / tafarndai a'r diwydiant priodasau.
Mae'r rheoliadau presennol a diffyg amserlen wrth symud ymlaen wedi gadael cannoedd o gyplau mewn cyflwr o ansicrwydd a dan bwysau sylweddol yn ystod cyfnod a ddylai fod yr hapusaf yn eu bywydau.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Canol Caerdydd
· Canol De Cymru